Dogfennau Cyngor

Mae'r optiwn yma yn gadael i chi uwchlwytho wahanol fathau o ddogfennau sy'n berthnasol i'r cyngor.

Allwch chi ddeffinio unrhyw fath o ddogfen, ond bydd rhai mathau wedi eu gosod yn barod ar y system, e.e. cofnodion ac agenda cyfarfod, ffurfleni blynyddol, rheolau sefydlog a rheolau ariannol.

Wrth fynd i fewn i'r optiwn yma welwch y dogfennau sydd wedi eu deffinio yn barod ar y sgrin. Cliciwch ar un o'r hein i uwchlwytho dogfen (gwelwch isod). 

Uwchlwytho Dogfen Ydych Wedi Golygu

Y ffordd orau i ddangos dogfen ar wefan yw mewn fformat PDF (Portable Document Format) a ddatblygwyd gan y cwmni Adobe, ond sydd bellach yn fformat agored all unrhyw gwmni ddefnyddio. 

Mae bosib creu dogfen yn y fformat yma o'r rhan fwyaf o olygwyr testun (word processor) fel Microsoft Word, Open Office Write, ayy. Defnyddiwch optiwn 'Export as PDF', 'Create PDF' neu tebyg.

Os mae'r ddogfen PDF ar eich cyfrifiadur, cliciwch ar y botwm "Uwchlwytho Dogfen", a dewiswch y ddogfen i'w huwchlwytho.

Uwchlwytho Dogfen Sydd Wedi Ei Sganio

Fel Dogfen PDF

Y ffordd orau i ddangos ffurflen flynyddol ydi fel dogfen PDF sy'n cynnwys yr holl dudalennau.

Mae bosib sganio'r ddogfen gyfan fel dogfen PDF. Mae sut i wneud hyn yn dibynnu ar y fath o argraffwr/sganiwr sydd gennych chi. Chwiliwch ar y we am gyfarwyddiadau eich peiriant chi. Fel enghraifft dyma gyfarwyddiadau i beiriannau Brother, HP, ac Epsom.

Os mae'r ddogfen PDF ar eich cyfrifiadur, cliciwch ar y botwm "Uwchlwytho Dogfen", a dewiswch y ddogfen i'w huwchlwytho.

Fel Delweddau'r Tudalennau

Os ydych wedi sganio'r ddogfen fel rhestr o ddelweddau (.png neu .jpg) - un dudalen ar y tro, felly defnyddiwch y botwm "Uwchlwytho Tudalen" i uwchlwytho'r tudalennau, un ar y tro.

Wedi i chi wneud hyn, gwnewch si?r bod y tudalennau yn y gyfres iawn. Allwch glicio ar dudalen a defnyddio 'Symud' o'r fwydlen "pop-ifynnu" i roi pethau yn y trefngalyniad iawn.

Unwaith mae pob dim yn ei le, allwch chi greu dogfen PDF yn cynnwys yr holl dudalennau. Nid oes ddim rhaid gwneud hyn - mae'r system yn dangos y tudalennau fel delwedd os ydych eisio gadael nhw felly, ond argymhellir creu dogfen PDF wrth glicio ar y botwm "Creu PDF" ar waelod y dudalen. 

 

SYLWCH: nid yw'n bosib dangos cyfieithiad awtomatig (Google Translate) i dogfennau sydd wedi eu sganio.

Ychwanegu Math o Ddogfen

Os nid yw'r math o ddogfen ydych eisio uwchlwytho ar y rhestr, allwch ychwanegu math newydd wrth glicio y botwm 'Math Dogfen Newydd' ar waelod y tudalen.

Mae hyn yn mynd a chi i sgrin newydd a ddisgrifwyd yma.