Uwchlwytho Delwedd

I uwchlwytho delwedd (ffeil .jpg, .bmp, .gif a.y.y) cliciwch ar y botwm 'Uwchlwytho Delwedd' ar y bar offer ar waelod y sgrîn 'Lluniau'

Bydd ffenestr fel hyn yn ymddangos:

Dewiswch y delwedd ydych eisio uwchlwytho.

Ar eich cyfrifiadur eich hun, mae eisio cael hyd i'r delwedd i'w uwchlwytho.

Wrth bwyso'r botwm 'Pori..' (neu 'Browse' os ydi'ch porwr ddim yn defnyddio'r Gymraeg) yn dibynnu ar pa system sydd ar eich cyfrifiadur (Windows 7, Windows 8, Windows 10, MAC OS, Linux ...) welwch ffenestr tebyg i un o'r rhein (o'r chwith: Windows XP, Windows 8):

Sylwch bod MS Windows yn aml dim on yn dangos enw y ffeil, ac nid yw hyn yn ddefnyddiol iawn i cael hyd i llun. I newid hyn cliciwch ar yr icon "view menu" (gwelwch ar y dde) a dewis "Thumbnails".

Cliciwch ar y llun ydych eisio. Os nid yw'r ffenestr yn cau, cliciwch 'Agor' (neu 'Open').

Bydd y delwedd wedyn yn uwchlwytho. Mae hyn yn medru cymeryd dipyn o amser yn dibynnu ar cyflymder eich cysylltiad â'r we, a maint y ffeil.

Os oes bosib, lleiheuwch y delwedd cyn i'w uwchlwytho. Cofiwch bod delwedd lle mae'r lled neu hyd mwyaf tua 1000 pixels yn llawn ddigon mawr i osod ar dudalen we.