Elfennau Tudalen Cyngor

Mae bosib gosod elfen tudalen pecyn cyngor fel unrhyw elfen tudalen arall. Mae elfennau'r pecyn cyngor i weld wrth glicio ar 'Cyngor...' ar fwydlen elfennau tudalen.

Mae elfennau'r pecyn cyngor yn 'awtomatic', hynny yw, unwaith maent wedi eu gosod ar y wefan, nid oes eisio eu trefnu eto. Mae'r newidiadau syn cael eu cynnal yn y pecyn cyngor yn ymddangos ar y wefan yn syth.

Dyma'r elfennau sydd ar gael ar hyn o bryd:

Rhestr Cynghorwyr

Mae hyn yn dangos rhestr y cynghorwyr sydd wedi eu golygu ar 'Rhestr Cynghorwyr' Pecyn y Cyngor. Mae'r cynghorwyr yn cael eu dangos yn yr un tref a sydd ar y dudalen yna. Dim ond cynghorwyr 'gweithgar' sy'n cael eu dangos.

Agenda Nesaf

Mae gosod yr elfen hyn yn achosi i linc gyda'r geiriau "Agenda'r cyfarfod nesaf" ymddangos ar y dudalen.

Mae'r system yn canfod y ddogfen cywir, h.y. i'r cyfarfod cynharaf yn y dyfodol sydd â agenda (gweler Dogfennau Cyfarfodydd). Os nad oes fath ddogfen, nid yw'r geiriau yn ymddangos.

Ffurflenni Blynyddol

Mae'r elfen yma'n achosi i linciau i'r holl ffurflenni blynyddol dros y pum mlynedd diwethaf ymddangos ar y dudalen.

Os mae'r ffurflen wedi ei huwchlwytho fel dogfen PDF, mae'r linc i'r ddogfen yma.

Os mae'r ffurflen wedi ei huwlwytho fel rhestr o ddelweddau (ffeiliau JPEG neu PNG) sydd heb eu trawsnewid i ddogfen PDF, mae y rhain yn ymddangos fel rhestr o luniau.

Mae'r system yn canfod y dogfennau diweddaraf yn awtomatig, ac nid oes eisio golygu'r dudalen ynwaith mae'r elfen yn ei le.

Cofnodion

Datgan Cysylltiad

Dyddiadau'r Cyfarfodydd

Nid oes elfen arbennig ar gyfer y defnydd yma. Yn lle defnyddiwch yr elfen 'digwyddiadau' wrth roi y cyngor fel trefnwr y digwyddiadau, a dewis cyfnod perthnasol (e.e. o mis (30 diwrnod) cyn heddiw tan blwyddyn (365 diwrnod) ar ôl heddiw.)