Mewngofnodi

Cynnwys Tudalen

Y fordd hawsaf i logi ifewn i'r system cynhaliaeth yw i fynd i'r wefan ei hyn. Ar waelod unrhyw dudalen mae logo Cradur: "Adeiladwyd gan Cradur". O dan hyn ddylech weld y gair 'golygu'. (Nid yw hyn yn rhy amlwg am nid i ddefnydd cyffredin mae o.) Cliciwch ar 'Golygu' ac ewch i fewn i System Cynhaliaeth  Gwefannau Cradur.

Os nid ydych wedi llogi i fewn yn barod, gofynir am eich enw defnyddiwr a cyfrinair. Gwelwch isod.

Os ydych wedi llogi ifewn, neu ar ol rhoi eich enw defnyddiwr a cyfrinair,  dewch ifewn i'r dudalen golygu ar gyfer dydalen y wefan oeddech yn edrych arnni. Mae pob agwedd o olygu dudalen wefan wedi ei ddisgrifio yn yr adran am olygu dudalennau'r wefan. 

Mae mynediad i pob ffwythiant arall (mewnforio lluniau, digwyddiadau, dogfennau, trefnu defnyddwyr, a.y.y.) ar y Brif Fwydlen. Cliciwch ar 'Bwydlen' ar y bar glas ar waelod y dudalen i fynd i'r Brif Fwydlen.

Y Sgrîn Llogi i Mewn


  • Rhybudd: Nid ydych wedi llogi imewn. - Rhowch eich Enw Defnyddiwr a Chyfrinair.

Os nid oes gennych Enw Defnyddiwr, cliciwch yma:

Os ydych wedi anghofio eich Cyfrinair, cliciwch yma:

Ysgrifennwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

Nodwch bod rhaid ysgrifennu'r cyfrinair yn union fel ei ddefyddwyd, h.y. yn yr un 'case' (llythrennau mawr neu bychain) neu rhif - nid yw "NewY0rk" (efor rhifyn dim) yr un a "Newyork" neu "NewYork" neu "NewYOrk" (efo 'O' fawr)!

Ond nid yw maint llythrennau yn bwysig yn yr enw defnyddiwr. Mae "DavidJones" yr un fath a "davidjones".

Pan ydych wedi ysgrifennu eich enw a gyfrinair yn gywir welwch Bwydlen Gweinyddiaeth Gwefan Cradur.

Llogi i mewn am y tro cyntaf

Os nad ydych wedi llogi ifewn o'r blaen, mae rhaid cofrestru ar y system. Pwyswch ar y botwm 'Cofrestru' a dilynwch y cyfarwyddion ar y sgrîn cofrestru.

Anghofio Eich Cyfrinair

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair nid oes eisio poeni. Cliciwch ar y botwm 'Anghofio Cyfrinair' a llenwch y manylion ar y sgrîn

Cyfyngiad Amser Di-weithgar

Os ydych wedi bod yn ddi-weithgar am fwy na terfyn amser di-weithgar, bydd rhaid i chi rhoi eich cyfrinair ar y sgrîn cyfyngiad amser.

Cyfrinair Yn Dod I Ben

Mae rhaid newid/adnewyddu cyfrinair pob hyn a hyn. Gwelwch y sgrîn cyfrinair yn dod i ben.

Llawer Sessiwn (Tabiau)

Mae'n bossib agor system gweinyddiaeth Cradur eich wefan ar mwy nac un tab ar unwaith yn eich porwr (browser), ac dim ond unwaith sydd eisio fewngofnodi. Fellu, er engrhaifft, fedrwch chi olygu tudalennau un iaith ar un tab, ac iaith arall ar tab arall.

Ond mae hyn yn golygu na os ydych yn allgofnodi ar un tab, yr ydych wedi allgofnodi ar pob tab - fellu gwnech yn sicr eich bod chi wedi gorffen gweithio cyn allgofnodi.